Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Gwin (Diwygio) (Cymru) 2024

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                        Ym marn Llywodraeth Cymru nid oes angen diwygio rhaglith yr O.S. hwn am nad yw’r modd y’i drafftiwyd yn anghyffredin – gweler, er enghraifft, Reoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022 (2022/472) a gyfeiriodd at y Rheoliad UE hwn yn yr un modd yn eu rhaglith, na chafwyd pwynt adrodd yn ei gylch. At hynny, dyma hefyd yn union sut y cyfeirir at y Rheoliad UE hwnnw yn y Rheoliadau Seisnig drafft ac mae’r Rheoliadau Cymreig drafft yn adlewyrchu’r Rheoliadau Seisnig hynny.

 

Pwynt Craffu Technegol 2:                        Gall Llywodraeth Cymru gadarnhau bod y cyfeiriad at 3/4/2023 yn gywir gan mai dyma’r diffiniad technegol diweddaraf ar gyfer trin gwin ag asid ffwmarig i atal eplesu malolactig ac mae yn y fersiwn gyfredol o'r Cod Gwinyddol. Mae cyfeiriad 2021 (OENO 581A-2021) a nodir yn adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at gofnod penderfyniad gwreiddiol yr OIV i ganiatáu defnyddio asid ffwmarig i atal eplesu malolactig. Mae’r diffiniad (3/4/2023) yn rhagnodi yn union yr un driniaeth ar gyfer yr un amcan ag a ganiateir gan benderfyniad 2021.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 3:                              Nid yw Llywodraeth Cymru wedi llunio Asesiad Effaith Rheoleiddiol am ddau reswm. Un rheswm yw bod y darpariaethau ar gyfer “gwin iâ" yn rhoi effaith i bolisi sydd eisoes wedi ei benderfynu gan Lywodraeth y DU pan lofnododd Brotocol Derbyn Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel ym mis Gorffennaf 2023, gan olygu nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddewis ond diwygio’r gyfraith. Y rheswm arall yw bod y newidiadau yn diweddaru rheoliadau i ganiatáu i fusnesau weithredu yn unol â Chod Ymarfer diweddaraf yr OIV, sef corff sy’n craffu ar newidiadau yn helaeth o safbwynt ymgynghorol a gwyddonol, ac mae’r newidiadau yn rhai y gwnaeth ymgynghori ar y rheoliadau ar lefel Prydain Fawr nodi cefnogaeth eang gan fusnesau, heb fod unrhyw bryderon am effeithiau negyddol.

Nid yw Llywodraeth Cymru o’r farn bod y newidiadau a wneir i Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) 2019/934 yn “helaeth”. O gymharu â chwmpas mawr ac eang iawn y Cod Rhyngwladol ar Arferion Gwinyddol cyfan, prin yw’r newidiadau a dim ond yn gymwys i ambell agwedd ar arferion gwinyddol y maent. Ar y cyfan, ychwanegiadau i brosesau a ganiateir sy’n rhoi cyfle i fusnesau gwin fabwysiadu arferion newydd yw’r newidiadau a wneir i Dabl 1 o Atodiad 1 i Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/934 gan Reoliad 3(5)(d). Mae’r arferion hyn wedi bod yn destun ymgynghoriad, a phroses graffu helaeth yr OIV. Mae’r newidiadau a wneir gan yr Atodlen (Rheoliad 3(6)) yn ychwanegu at y rhestr o gyfansoddion gwinyddol awdurdodedig, neu’n diweddaru cyfansoddion sydd eisoes ar y rhestr honno, a restrir yn Nhabl 2 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/934. Drwy wneud y newidiadau hyn gall busnesau ddefnyddio’r rhestr gymeradwy fwyaf diweddar o gyfansoddion.

Mae’r newidiadau eu hunain yn dechnegol ac maent i gyd wedi eu cymeradwyo gan aelodau’r OIV, sy’n cynnwys y DU. Mae’r Cod yn gosod safonau rhyngwladol ar gyfer gwin ac felly mae’n berthnasol i fasnach ryngwladol.  Drwy wneud y newidiadau gall busnesau Cymreig weithredu ar yr un telerau â busnesau eraill yn y DU a thu hwnt.